Croeso

Mae Ymddiriedolaeth Tramffordd Dyffryn Ceiriog yn elusen gofrestredig sy’n gweithio tuag at ail-greu’r dramffordd fechan hynod hon yn Y Waun a Dyffryn Ceiriog.

Ymwelwch â’n blog am y newyddion diweddaraf.

Ail-greu hanes ... Mae rhan o Dramffordd hanesyddol Dyffryn Ceiriog - a ddyfynnir fel ‘Rheilffordd Naws y Nefoedd’ yn cael ei hadfer gan wirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Tramffordd Dyffryn Ceiriog, sydd am ail-greu’r dramffordd i’r hyn y byddai yn ei hanterth.

Pentref bach del wedi ei leoli ar gyrion Cyngor Wrecsam ydi’r Waun, ‘Porth i Gymru’, sydd hefyd ar ymylon harddwch Dyffryn Ceiriog. Bellach yn ffocws i ymdrechion yr Ymddiriedolaeth i ail-greu’r dramffordd, mae’r Waun yn paratoi i weld trenau stêm yn rhedeg unwaith eto ar hyd ei golygfeydd darluniadol.

Fymryn y tu hwnt i’r Waun mae Dyffryn Ceiriog, ‘Tamaid bach o Nefoedd ar y Ddaear’, yn ôl Lloyd George. Efallai y byddai ymwelwyr â’r dyffryn paradwysaidd hwn yn synnu o ddarganfod treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal, yn seiliedig ar ddyddodion creigiau a mwynau. Ar y cychwyn, symudwyd llechi ar geffyl pwn o Lyn Ceiriog ar draws y bryniau i Langollen, cyn eu llwytho ar fadau i deithio ymlaen, system araf ac aneconomaidd iawn.

Ym 1873, adeiladwyd lein fach gul ac ildiodd y ceffylau pwn i farchnerth. Crëwyd y dramffordd gan ddiwydiant a chan fod y dramffordd bellach yn bodoli, esgorodd hynny ar ddiwydiannau eraill yn ei sgil. Llifodd ffrwd gyson o lechi allan o’r dyffryn ac yn y blynyddoedd dilynol ychwanegwyd gwenithfaen, caolin, tarmacadam a hyd yn oed powdr gwn. O’r melinau daeth brethyn ac o bosib y cynnyrch mwyaf arloesol oedd brithyll byw o frithyllfeydd y dyffryn.

Gyda dyfodiad stêm, cyflymodd yr holl broses a daeth trenau cymysg o lechi a chynnyrch mwynau, ynghyd â cherbydau teithwyr, yn gyffredin. Ar eu taith, byddai teithwyr yn cael cipolwg o Afon Ceiriog yn llifo gerllaw’r lein. Wrth i’r trên gyrraedd Pontfadog, byddai nifer o’r teithwyr yn cymryd yn ganiataol y byddai’n disgwyl amdanynt tra hwythau’n mwynhau llymaid bach yn y Swan Inn. Yn aml, byddai raid i’r cwsmeriaid olaf yn ymadael o’r dafarn frysio ar draws y ffordd ac ond y dim yn llwyddo i straffaglu ar fwrdd y trên cyn iddo ymlwybro ‘mlaen tuag at Dolywern ac yna Glyn Ceiriog.

Mae cerdyn post doniol o’r cyfnod yn hawlio mai arwyddair y tramffyrdd oedd ‘Dim brys, dim chwys’ ac y ceid oedi ‘deng munud i gasglu blodau!’ Rhedodd y trên olaf ar hyd y dyffryn ym 1935. Aeth y newyddion ar goedd a daeth niferoedd o’r trigolion lleol ynghyd yn y Glyn i wylio’r “tram” yn mynd heibio, fyth i ddychwelyd.

Mae’r ystafelloedd aros ym Mhontfadog a Dolywern wedi goroesi yn eu mannau gwreiddiol hyd heddiw. Ym 1950, defnyddiai’r swyddog cyngor ystafell aros Pontfadog er mwyn casglu trethi a chafodd y llysenw ‘Neuadd y Dref Pontfadog’ gan y trigolion. Fe’i prynwyd yn ddiweddarach gan y dafarn a bu hefyd yn siop grefftau bach del.

Cafodd economi Dyffryn Ceiriog glec gydag agoriad yr A483/A5, Ffordd Osgoi Y Waun, gan fod y rhelyw o ymwelwyr posib yr ardal bellach yn gyrru ‘mlaen tua’r gogledd, gan un ai adael y ffordd osgoi am yr A5 a Llangollen neu’n anelu fwyfwy i’r gogledd i ymuno â ffordd ddeuol yr A55, sy’n cynnig gorwelion atyniadau Gogledd Cymru. Byddai adfywio Tramffordd Dyffryn Ceiriog yn gymorth i geisio unioni’r cydbwysedd. Mae Cwmni Ymddiriedolaeth Tramffordd Dyffryn.

Fundraising

Donations

Any donations you care to make towards our work will be gratefully received.

Modelling